Dealltwriaeth | Ymddiriedaeth | Gwybodaeth
Dealltwriaeth
Byddwn bob adeg yn esbonio’n glir yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud ar eich rhan a faint y mae hynny’n debygol o gostio. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch y cynnydd yn y mater dan sylw gan esbonio pethau’n glir ac yn gryno yn hytrach na defnyddio jargon cyfreithiol. Mae nifer o’n staff yn siarad Cymraeg, a gallwn ymweld â chi yn eich cartref. Byddwn yn cwrdd â chi ar amser sy’n gyfleus i chi, naill ai yma yn ein swyddfa fodern neu, os yw’n well gennych, yn eich cartref neu’ch busnes.
Ymddiriedaeth
Mae gennym bobl ragorol a dibynadwy fydd yn cydweithio â chi ac yn rhoi cyngor i chi ar y canlyniad gorau posib. Ein nod yw adeiladu perthynas hir dymor gyda’n cleientiaid a’u teuluoedd er mwyn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth proffesiynol a chyngor priodol.
Gwybodaeth
Mae ein Cyfreithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd priodol, ac mae gan lawer ohonynt achrediadau cydnabyddedig Cymdeithas y Gyfraith. Yn ogystal â’n hymrwymiad i ragoriaeth, fe welwch ein bod yn gyfeillgar a’i bod yn hawdd siarad â ni. Mae ein holl staff yn meddu ar wybodaeth gyfreithiol helaeth iawn a gallant eich cynghori fel unigolyn neu berchennog busnes.