Home - UTK Cymraeg Home - UTK Cymraeg

Dealltwriaeth | Ymddiriedaeth | Gwybodaeth

Sefydlwyd 1913

Amdanom Ni

Ers 1913, mae Ungoed-Thomas & King wedi darparu gwasanaethau cyfreithiol cyson ac amrywiol o’r radd
flaenaf ar gyfer y gymuned leol, a ledled Cymru a Lloegr.

Lleolir y practis yng Nghaerfyrddin ac mae proffil y cleientiaid a wasanaethir gennym yn eang a thra sefydledig. Rydym yn bractis cyfeillgar ac agos-atoch sy’n cynnig sbectrwm eang o arbenigedd cyfreithiol ac rydym yn croesawu cleientiaid o bob rhan o’r gymuned.

Rydym yn cynnig gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol ac agwedd fodern a blaengar. Rydym yn hynod falch ein bod wedi ennill nodau ansawdd Cymdeithas y Gyfraith sef Lexcel, Cynllun Ansawdd Trawsgludo Eiddo a Chynllun Ansawdd Ewyllysiau ac Etifeddiant mewn cydnabyddiaeth o’n hymarferion rheoledig a’n safonau uchel, a archwilir yn annibynnol. Ni yw’r unig bractis yn Sir Gaerfyrddin i ennill y nodau hyn. Rydym yn ymddangos yng Nghyfeirlyfrau ‘Legal 500’ a ‘Chambers’. Mae ein cyfreithwyr medrus a’r staff cefnogi profiadol yn cynnig gwasanaeth personol a gofalgar ynghyd â safon uchel o gywirdeb ac annibyniaeth.

Mae popeth a wnawn yn seiliedig ar dair egwyddor, sef dealltwriaeth, ymddiriedaeth a gwybodaeth.


UTK Cymraeg