Busnes
Rydym yn cydweithio â’n cleientiaid er mwyn deall anghenion eu busnes a rhoi cyngor ymarferol iddynt fydd yn eu helpu i ddod o hyd i’r ateb perffaith ar gyfer y materion y maent yn eu hwynebu. P’un ai ydych yn cychwyn eich busnes cyntaf neu yn rhedeg cwmni sydd wedi ei sefydlu ers amser, gallwch ddibynnu arnom i fod yn rhagweithiol ac i roi cyngor proffesiynol a didwyll i chi. Byddwn yn darparu gwasanaeth effeithlon, cost effeithiol a hygyrch ar eich cyfer.
Gallwn eich helpu gyda’r canlynol:
- Prynu neu werthu busnes
- Prynu neu werthu neu brydlesu eiddo masnachol
- Ffermydd gwynt a phrosiectau ynni adnewyddadwy