Ein Cymuned Leol
Rydym yn hapus iawn unwaith eto eleni i noddi Sioe Amaethyddol Clwb Ffermwyr Ifanc San Clêr a Sioe Amaethyddol Pontargothi.
Cynhelir Sioe Amaethyddol CFfI Sanclêr ar y 21 o Fai 2016 ym maes Sioe’r Siroedd Unedig yn Nantyci.
Bydd Sioe Amaethyddol Pontargothi yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn y 28 o Fai 2016 ar faes y sioe yn y pentref.
Bydd gennym stondin yn y ddwy sioe a gobeithiwn weld ffrindiau hen a newydd yn galw heibio ac yn ymuno â ni am ychydig o luniaeth ysgafn.
Dymunwn bob llwyddiant i Bwyllgorau’r ddwy sioe gan obeithio y bydd y tywydd yn garedig wrthynt.
Leave a Reply
Want to join the discussion?Feel free to contribute!